Vaughan Gething AC

Cadeirydd – Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Polisi Amaeth Cyffredin

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Hydref 2012

 

Annwyl Mr Gething

 

Par: Y Polisi Amaeth Cyffredin

 

Diolch am gylchredeg yr ymgynghoriad uchod a gofyn am sylwadau.  Mae ein hymateb wedi’i atodi.

 

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y Polisi Amaeth Cyffredin i’r Gymru wledig.  Dylid ystyried ein hymateb i ymgynghoriad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ynghylch y Polisi yng nghyd-destun ein swyddogaeth fel y prif reoleiddydd amgylcheddol ar gyfer amddiffyn aer, pridd a dŵr.  Mae gennym ni gyfrifoldebau hefyd i gynnal, gwella a diogelu bioamrywiaeth cysylltiedig â dŵr a physgodfeydd yng Nghymru ac mae’n bosibl eu gwella'n sylweddol drwy reoli tir yn gynaliadwy.  

 

Rydyn ni o’r farn fod cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin yn gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru hyrwyddo rheoli tir yn gynaliadwy a chynhyrchu bwyd o ansawdd yng Nghymru.  Mae’n holl bwysig cynnal dialog barhaus gydag Aelodau Senedd Ewrop a swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau fod barn rhanddeiliaid o Gymru ar ddyfodol y Polisi Amaeth Cyffredin yn cael ei gynrychioli’n llawn.  Dylai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ddal i gadw golwg ar ddatblygiadau yn y trafodaethau ar y Polisi Amaeth Cyffredin er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i Gymru.

 

Mae’r adroddiadau drafft Pwyllgor Amaeth Senedd Ewrop yn cynnwys cynigion i newid rheoliadau drafft gwreiddiol y Comisiwn Ewropeaidd yn arwyddocaol.  Byddai symud at daliadau ar sail arwynebedd yng Nghymru yn debyg o arwain at ailrannu sylweddol ar gefnogaeth ymysg rheolwyr tir Cymru.  Ymhellach, mae taliadau gwyrdd Colofn 1 y Polisi Amaeth Cyffredin hefyd yn her ac ni ddylai rheolwyr tir Cymru fod o dan anfantais oherwydd y gwaith amgylcheddol da y maen nhw eisoes wedi’i gyflawni drwy reoli tir yn gynaliadwy.  Dylid rhoi hyblygrwydd i Gymru ddewis y mesurau sydd fwyaf addas i Amaethyddiaeth Cymru ac i ddeilliannau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

 

Rydyn ni’n siomedig fod adroddiad drafft Pwyllgor Amaeth Senedd Ewrop yn cynnwys cynnig i gael gwared ar fesurau trawsgydymffuro ynghylch y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddiaeth Plaladdwyr.  Roedd Erthygl 91 o reoliad drafft y Comisiwn Ewropeaidd yn datgan yn wreiddiol y byddai cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddiaeth Plaladdwyr ac â’r Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr yn dod yn amod trawsgydymffurfio unwaith y byddai pob Aelod Wladwriaeth wedi mabwysiadu’r Cyfarwyddebau.  Rydyn ni’n ystyried fod cynigon yr adroddiad drafft yn gam yn ôl a fyddai’n llesteirio gallu Llywodraeth Cymru i gyfarfod â thargedau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag i daclo llygredd gwasgaredig mewn dŵr o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

 

Mae ein hymateb, sydd wedi'i atodi, yn ystyried y problemau pwysig hyn yn fanylach ac mae hefyd yn cynnwys sylwadau ehangach ar y cynigion yn adroddiad drafft Pwyllgor Amaeth Senedd Ewrop.   Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein sylwadau o help i Lywodraeth Cymru wrth ystyried diwygio'r Polisi Amaeth Cyffredin ac yn ei ymdrechion y gael y canlyniadau gorau i Gymru.                                    

 

Chris Mills,

Cyfarwyddwr, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru


 


YMATEB ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD CYMRU I YMCHWILIAD GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD I’R POLISI AMAETH CYFFREDIN

 

CRYNODEB

 

·         daclo mathru pridd ac erydu glannau afonydd gan dda byw.

·         hyrwyddo cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) Silwair, Slyri a Thanwydd Amaethyddol (SSAFO); a

·         gofyn i bob fferm fabwysiadu cynlluniau rheoli maetholion.  

 

1.0          CYFLWYNIAD

 

1.1          Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r prif reoleiddydd amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer amddiffyn pridd, aer a dŵr.  Mae gan yr Asiantaeth hefyd ddyletswyddau pwysig i gynnal, gwella a diogelu bioamrywiaeth cysylltiedig â dŵr a physgodfeydd.  Rydyn ni'n croesawu'r cyfle i gyflwyno sylwadau ar y datblygiadau diweddaraf ynghylch diwygio'r Polisi Amaeth Cyffredin ac ar oblygiadau hynny i Gymru.

 

1.2          Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y Polisi Amaeth Cyffredin i’r Gymru wledig.  Mae Cymru’n derbyn tua €330 miliwn o dan Golofn 1[3] y Polisi Amaeth Cyffredin bob blwyddyn a €376.7 miliwn o dan Raglen Datblygu Gwledig Cymru[4] Colofn II y Polisi.  Mae’r Arolwg Busnes Ffermydd[5] blynyddol yn dangos fod ffermydd Cymru’n dal i ddibynnu’n drwm ar gymorthdaliadau am eu bywoliaeth.   

 

1.3          Mae llygredd dŵr yn un o'r prif bryderon amgylcheddol ymysg cyhoedd yr Undeb Ewropeaidd, yn ail yn unig i newid hinsawdd ar Ewrofaromedr Arbennig yr Amgylchedd fis Mawrth 2008. Yn 2010 daeth asesiad Aelod Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ar Gynlluniau drafft Rheoli Basn Afon[6] i’r casgliad fod y diwydiant amaeth yn gosod pwysau ar ddyfroedd wyneb ac ar ddyfroedd daear.  Dangosodd canlyniadau fod llygredd nitrogen, gwasgaredig neu bwynt, yn cael ei adrodd yn 91% o’r Cynlluniau drafft, ffosfforws mewn 90% a phlaladdwyr mewn 69%.  

 

1.4          Nid ffermio yw’r unig ffynhonnell o lygredd mewn dŵr yng Nghymru ond mae'n cyfrannu 60% o nitradau, 25% o ffosfforws a 75% o waddodion i ddyfroedd y genedl[7].  Dylai’r Gyfarwyddeb Fframwiath Dŵr fod yn flaenoriaeth bwysig i’r Polisi Amaeth Cyffredin.

 

2.0        SYLWADAU MEWN YMATEB I GWESTIYNAU PENODOL

 

            DOSBARTHIAD TALIADAU UNIONGYRCHOL

 

            Cwestiwn 1

 

A fyddech chi’n cefnogi’r newidiadau a ddangosir yn yr adroddiad drafft neu a hoffech chi weld rhagor o newidiadau'n cael eu cyflwyno?  

 

2.1       Dydyn ni ddim yn gymwys i gyflwyno sylwadau manwl ar newidiadau sylfaenol i’r Polisi Amaeth Cyffredin ond fe fydden ni’n cefnogi cael pwynt dechrau mor isel â phosibl i helpu rheolwyr tir i ail drefnu busnesau eu ffermydd.  Rydyn ni’n nodi y byddai Gwelliant 56 yn rhoi’r cyfrifoldeb ar Aelod Wladwriaethau “i sicrhau na fyddai hawliau unrhyw ffermwr yn cael eu gostwng o fwy na 30% o gymharu â 2014”.  Fe fydden ni’n cefnogi newid o’r fath ar yr amod bod rheolwyr tir yn ail drefnu eu busnesau ffermio yn gynaliadwy yn y tymor hir.  

 

            HAWLIAU

 

Cwestiwn 2

           

A fyddech chi’n cefnogi Gwelliannau 50 a 51 ar ymestyn y blynyddoedd y mae’n rhaid i ffermwr fod wedi defnyddio hawliad?

 

2.2       Rydyn ni’n cefnogi Gwelliannau 50 a 51 ar ymestyn y blynyddoedd y mae’n rhaid i ffermwr fod wedi defnyddio hawliad.Bydd y rhain o help i reolwyr tir a oedd wedi defnyddio hawliad rhwng 2009 a 2011 ond heb fod wedi  gallu gwneud hynny yn 2011.  

 

Cwestiwn 3

 

A fyddech chi’n cefnogi defnyddio’r gronfa genedlaethol ar gyfer y dibenion a amlinellir gan Welliant 59?

 

2.3       Rydyn ni’n cefnogi defnyddio’r gronfa genedlaethol ar gyfer y dibenion a amlinellir gan Welliant 59. Mae’n ffordd o ddefnyddio’r gronfa genedlaethol (o dan Erthygl 23) i ddyrannu hawliau i ffermwyr sydd wedi dechrau ar eu gweithgareddau amaethyddol ar ôl 2011.  Rydyn ni’n nodi, fodd bynnag, y bydd yn rhaid i’r adnoddau ddod o derfyn cenedlaethol cyfyngedig.

 

Cwestiwn 4

 

A ydych yn cefnogi’r farn bod angen sicrwydd pellach yn y testun i leihau'r posibilrwydd o fancio tir?

 

2.4       Rydyn ni’n bryderus fod yna berygl y bydd cynigion presennol y Comisiwn Ewropeaidd yn arwain at ‘fancio tir’ ac y byddai hynny’n effeithio ar ddefnydd, argaeledd a phris tir.  Rydyn ni o’r farn bod angen “sicrwydd” yn y testun i leihau’r posibilrwydd o fancio tir a'r drwg amgylcheddol a allai ddeillio o hynny.  Bydd yn rhaid i bob rheolwr tir sydd â phrosiectau amaethyddol gyfarfod â goblygiadau trawsgydymffurfio sy'n effeithio ar borfa barhaol, ardaloedd lled naturiol a thir heb ei drin a bydd hyn yn cael ei sgrinio’n gadarn yn unol â gofynion Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol Llywodraeth Cymru a data gwaelodlin porfa barhaol Cymru 2003.

 

            TALIADAU GWYRDD

           

Cwestiwn 5

 

A ydych chi’n cefnogi’r cynnig sydd yng ngwelliant 69?

 

2.5       Rydyn ni’n croesawu cynigion a fydd yn caniatáu i reolwyr sydd eisoes mewn cynlluniau amaeth amgylcheddol dderbyn taliadau elfennau “gwyrdd" yn awtomatig.  Cyn belled â bod mesurau a geir drwy gymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn mynd y tu hwnt i ofynion taliadau gwyrdd, yna dylai rheolwyr tir dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith.   

 

 

 

Cwestiwn 6

 

A ydych chi’n cefnogi barn y Grŵp y dylai ddal i bwyso am ddewislen ehangach o ddewisiadau taliadau gwyrdd yn y rheoliadau terfynol?

 

2.6       Rydyn ni’n cefnogi dewislen ehangach o ddewisiadau taliadau gwyrdd. Dylai Llywodraeth Cymru gael hawl i ddewis y dewisiadau gorau ar gyfer cynnal amaethyddiaeth Cymru.   Er bod yn rhaid cael cynlluniau cynaliadwy ar gyfer rheoli tir (megis Glastir) er mwyn cyfarfod â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gwirfoddol yw’r rhain a heb fod yn cael eu gweithredu ledled y wlad.   O gofio mor ddaearyddol helaeth yng Nghymru y mae’r cyrff dŵr sy’n methu, ni fydd mesurau Colofn 2 y Polisi Amaeth Cyffredin ar eu pen eu hunain yn arwain at wella cymaint ag sydd ei angen.   Bydd gan fesurau taliadau gwyrdd Colofn 1 y Polisi, felly, ran bwysig i'w chwarae mewn gwireddu gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.  Mae’n rhaid gwahaniaethu’n glir, fodd bynnag, rhwng yr hyn y bydd ei angen o dan daliadau gwyrdd Golofn 1, rheoli tir yn gynaliadwy o dan Golofn II a thrawsgydymffurfio o dan y Polisi Amaeth Cyffredin, gan gynnwys Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da.

 

CYNLLUN Y FFERMWYR BACH

 

Cwestiwn 7

 

A ydych chi'n cefnogi'r gwelliant i wneud Cynllun y Ffermwyr Bach yn wirfoddol?

 

2.7       Rydyn ni o'r farn y dylai Cynllun y Ffermwyr Bach fod yn wirfoddol ond y dylai hefyd gydymffurfio â phrotocolau trawsgydymffurfio a thaliadau gwyrdd y Polisi Amaeth Cyffredin.  Fe fydden ni’n bryderus pe byddai’r rhai sy’n aelodau o'r Cynllun Ffermwyr Bach yn cael eu heithrio o'r taliadau gwyrdd ac yn wynebu amodau trawsgydymffurio llai llym.  Er mai ychydig, yn naturiol, sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermwyr Bach, gallai perfformiad amgylcheddol gwael ar eu ffermydd danseilio egwyddorion sylfaenol diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin a rheoli tir yn gynaliadwy.  Rydyn ni o’r farn y dylai pob fferm, beth bynnag ei maint, hyrwyddo perfformiad a safonau amgylcheddol uchel.    

 

Cwestiwn 8

 

Beth yw eich barn ar Welliant 104?

 

2.8       Rydyn ni’n nodi dymuniad y Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru) i gynyddu’r arian sydd ar gael i ffermwyr o dan Gynllun Ffermwyr Bach gwirfoddol o 1000 € i 1500 €. Pe byddai hynny’n cael ei weithredu, yna dylid datblygu synergedd yn y gwasanaethau ymgynghorol sydd ar gael o dan Cyswllt Ffermio i wella perfformiad amgylcheddol ar y cyd â phrotocolau trawsgydymffurfio a thaliadau gwyrdd y Polisi Amaeth Cyffredin.

 

            FFERMWYR IFANC

 

Cwestiwn 9

 

            A ydych chi’n cefnogi barn y Grŵp y dylai cefnogaeth fod ar gael i bob newydd ddyfodiad ac nid i’r rhai o dan 40 oed yn unig?

 

2.9       Rydyn ni o’r farn y dylid ymestyn cefnogaeth y Polisi Amaeth Cyffredin i bob newydd ddyfodiad ac nid i’r rhai o dan 40 oed yn unig.  Gallai pob newydd ddyfodiad i ffermio gynnig syniadau gweithio newydd a chynyddu cyfoeth diwydiant ffermio Cymru, beth bynnag eu hoedran.

 

 

 

            Cwestiwn 10

 

            A ydych chi’n cefnogi bwriad gwelliannau 86 ac 87

 

2.10      Rydyn ni’n nodi amcanion gwelliannau 86 ac 87 ar gyfer datblygu meini prawf gwrthrychol ac anwahaniaethol ar gyfer cefnogaeth cymhwysedd.  Rydyn ni o’r farn y dylai newydd ddyfodiaid dderbyn cefnogaeth cyn belled â bod ganddyn nhw sgiliau a allai ailfywiogi’r diwydiant a thaclo heriau amgylcheddol yn y dyfodol.  Dylid datblygu synergeddau gyda Chyswllt Ffermio i ddatblygu’r sgiliau hynny sy'n hanfodol i hyfywdra tymor hir busnesau.

 

FFERMWR ACTIF

 

Cwestiwn 11

 

A fyddech chi’n cefnogi defnyddio rhestr negyddol i ddiffinio Ffermwr Actif?

 

2.11      Rydyn ni’n cydnabod bod diffinio ffermwr "actif" yn fater cymhleth ac yn croesawu cynnig Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd i gyflwyno rhestr negyddol o weithgareddau a busnesau na fyddai’n gymwys i dderbyn cymorth taliadau uniongyrchol.  Rydyn ni o'r farn y dylid cysylltu diffiniad o ffermwr "actif" gyda rheoli tir a chynhyrchu yn "actif".

 

Cwestiwn 12

 

Beth yw eich barn ar y Gwelliant hwn a sut y mae’n berthnasol i newydd ddyfodiaid?  

 

2.12      Rydyn ni’n nodi y byddai Gwelliant 31 yn newid diffiniad Erthygl 9 o ffermwr "actif" i sicrhau na fyddai personau cyfreithiol "nad ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhyrchu amaethyddol yn 2011" yn derbyn taliadau uniongyrchol yn y dyfodol.  Mae angen bod yn gliriach ynghylch effeithiau hyn ar newydd ddyfodiaid a rheolwyr tir sydd wedi arallgyfeirio.  

 

 

HYBLYGRWYDD RHWNG COLOFNAU

 

Cwestiwn 13

 

Beth yw eich barn ynghylch y cynnig i ganiatáu’r DU i drosglwyddo 10 y  cant yn ychwanegol o Golofn 1 i Golofn II?

 

2.13      Rydyn ni'n croesawu'r hyblygrwydd a gynigir i ganiatáu’r DU i drosglwyddo 10% yn ychwanegol o arian o Golofn 1 i Golofn II.  Mae’n rhaid bod digon o arian Colofn II ar gael i helpu rheolwyr tir ddarparu ar gyfer heriau newid hinsawdd a gwasanaethau ecosystemau.  Fodd bynnag, ni ddylai hynny dynnu sylw oddi wrth angen hanfodol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau cyfran decach o arian Rheoliad Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd.  

 

Cwestiwn 14

 

Beth yw eich barn ynghylch y cynigion i ganiatáu Aelod Wladwriaethau i drosglwyddo peth o’r arian sydd heb ei ddefnyddio i feysydd cyfyngiadau naturiol a thaliadau gwyrdd o dan Golofn i i Golofn II?

 

2.14      Dylid trosglwyddo arian heb ei ddefnyddio ar gyfer taliadau gwyrdd a Chyfyngiadau Naturiol Colofn I y Polisi Amaeth Cyffredin i Golofn II.  Yna gellid defnyddio’r arian i hyrwyddo cymunedau gwledig cynaliadwy ac i wella canlyniadau amgylcheddol a gwasanaethau ecosystemau.  Mae trefniadau ariannu presennol yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi Cymru o dan gryn anfantais o gymharu ag Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhoi pwysau enfawr ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei adnoddau ei hunan er mwyn sicrhau y ceir rhaglen ystyrlon o weithrediadau yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru.  Nid yw’n glir a fydd yr un lefel o gefnogaeth ddomestig ar gael yn y dyfodol felly bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau cyllidebol anodd.  

 

RHEOLIADAU DRAFFT AR DDATBLYGU GWLEDIG

 

AMCANION A BLAENORIAETHAU DATBLYGU GWLEDIG

 

Cwestiwn 15

 

A fyddech chi’n cefnogi ychwanegu cystadleuedd coedwigaeth fel amcan a blaenoriaeth ar gyfer arian datblygu gwledig?

 

2.15      Rydyn ni o’r farn y dylai cystadleuedd coedwigaeth fod yn amcan ac yn flaenoriaeth ar gyfer arian Datblygu Gwledig yn ogystal â rheoli tir ehangach yng Nghymru.

 

MESURAU PENODOL

 

Byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu’n benodol farn ar;  

 

Cwestiwn 16

 

Gwelliannau 24 a 27 a fyddai’n galluogi Aelod Wladwriaethau i roi taliadau ymddeol i ffermwyr sy’n trosglwyddo eu daliadau’n barhaol i ffermwyr eraill os yw’r ffermwyr sy’n ymddeol dros 65 oed ac wedi bod yn ffermio am o leiaf ddeng mlynedd; a   

 

2.16      Dim sylwadau

 

 

 

Cwestiwn 17

 

Gwelliant 28 a fyddai’n caniatáu i Aelod Wladwriaethau ddarparu arian fel gwarant ar gyfer contractau prydlesu tir i ffermwyr ifanc i’w gwneud yn haws cael prydlesau hirach.

 

2.17      Dim sylwadau

 

 

 

AMAETH AMGYLCHEDDOL A HINSAWDD

 

Cwestiwn 18

 

Beth yw eich barn ar y gwelliannau arfaethedig?

 

2.18      Rydyn ni’n cefnogi Gwelliannau 41 a 42 cyn belled ag y bydd rheolwyr tir sydd mewn cynlluniau amaeth amgylcheddol ar hyn o bryd o dan Golofn 1 yn dod yn gymwys yn awtomatig am daliadau gwyrdd.    Bydd y gwelliannau yn rhwystro dryswch taliadau dwbl rhwng y colofnau ac yn pwysleisio bod pob cynllun amaeth amgylcheddol yn mynd y tu hwnt i ofynion taliadau gwyrdd.   

 

Cwestiwn 19

 

A fyddech chi’n cefnogi cynnwys cyfraddau cyd ariannu uwch ar gyfer mesurau hinsawdd amaeth amgylcheddol?

 

2.19      Dydyn ni ddim yn gymwys i gyflwyno sylwadau manwl iawn ar y gyfradd cyd ariannu fwyaf priodol.  Fodd bynnag, rydyn ni’n nodi bod rhagor o bwyslais yn cael ei roi erbyn hyn ar fesurau amaeth amgylcheddol a hinsawdd yn y trafodaethau sydd ar y gweill ynghylch adolygu’r Polisi Amaeth Cyffredin.  Mae hyn yn cydnabod yr heriau amgylcheddol cynyddol sy’n wynebu Cymdeithas fodern a’r rhan hanfodol y bydd yn rhaid i reolwyr tir ei chwarae wrth addasu a lliniaru eu heffeithiau.  Bydd yn rhaid cael digon o adnoddau i alluogi rheolwyr tir i ffermio’n gynaliadwy a darparu’r agenda gwasanaethau ecosystemau pwysig.

 

Cwestiwn 20

 

A fyddech chi’n cefnogi'r gofyniad y dylai Aelod Wladwriaethau wario o leiaf 30 y cant o'u harian Datblygu Gwledig ar fesurau hinsawdd amaeth amgylcheddol?

 

2.20      Rydyn ni o’r farn y dylai Aelod Wladwriaethau wario o leiaf 30% y cant o'u harian Datblygu Gwledig ar fesurau hinsawdd amaeth amgylcheddol. Dylai Aelod Wladwriaethau gael hyblygrwydd ychwanegol i benderfynu ar gyfradd uwch pe byddai eu rhaglenni Datblygu Gwledig yn gofyn am hynny.  

 

ARDALOEDD Â CHYFYNGIADAU NATURIOL

 

Cwestiwn 21

 

Beth yw eich barn ynghylch y gwelliant hwn sy’n cael ei awgrymu?

 

2.21      Rydyn ni’n nodi fod gwelliant 46 yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer meini prawf mandadol i ddiffinio ardaloedd â chyfyngiadau naturiol.   Rydyn ni'n cefnogi'r gwelliant i ganiatau rhagor o amser i gynnal asesiad effeithiau llawn.

 

RHEOLIADAU DRAFFT AR ARIANNU, RHEOLI A MONITRO’R POLISI AMAETH CYFFREDIN

 

Cwestiwn 22

 

Beth yw eich barn ar y gwelliannau hyn?

 

2.22      Rydyn ni’n cefnogi’r gwelliannau a gynigir a fyddai’n gofyn i Aelod Wladwriaethau sicrhau bod unrhyw systemau rheoli a sefydlir yn “gymesur ac yn seiliedig ar risg” Rydyn ni o’r farn y dylai hapwiriadau ganolbwyntio ar feysydd lle mae’r “risg o wall” uchaf.  Mae hyn yn adeiladu ar ddyhead menter Gweithio’n Gallach Llywodraeth Cymru.

 

2.23      Rydyn ni’n croesawu’r cynnig ar gyfer cyflwyno’r cysyniad o system “rybuddio” lle byddai llythyr rhybuddio cychwynnol yn cael ei anfon mewn achos o ddiffyg cydymffurfiad cyntaf.  Rydyn ni hefyd yn nodi'r cynnig na fyddai cosb yn cael ei gosod oni bai bod diffyg cydymffurfiad yn cael ei briodoli’n ddiamheuol i’r buddiolwr hwnnw.   Er ein bod yn cydnabod rhinweddau cynnig o’r fath, fe fydden ni’n bryderus pe byddai cyflwyno hynny’n glastwreiddio’r defnydd o gosbau (pan ellir eu cyfiawnhau) ac yn amharu ar onestrwydd y broses archwilio pan ganfyddir toriadau trawsgydymffurfio.  

 

2.24      Rydyn ni o’r farn y dylai Aelod Wladwriaethau gael hyblygrwydd i deilwra system rybuddio yn ôl amgylchiadau Aelod Wladwriaethau a rhanbarthau.  Dylid ffurfio synergedd clos rhwng y gwasanaethau ymgynghorol a gynigir drwy Cyswllt Ffermio i hyrwyddo ymarferion ffermio da rhag bod yn rhaid anfon llythyrau rhybuddio cychwynnol.

 

Cwestiwn 23

 

A hoffech chwi weld unrhyw welliannau eraill?

 

2.25      Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn rhedeg rhaglen o ymchwiliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.  Fis Mai 2012, dangosodd data Rhesymau dros Fethu mai llygredd amaethyddol oedd y broblem fwyaf yng Nghymru[8].  Mae tua 155 o gyrff dŵr yn methu ar hyn o bryd oherwydd llygredd o weithgareddau amaethyddol, gan gynnwys mathru gan dda byw, erydu ochrau afonydd a chaeau, dŵr ffo o borfa a chaeau âr, lonydd a buarthau a rheoli slyri'n wael.  Rydyn ni’n dal i ddangos bod angen cryfhau trawsgydymffurfiad y Polisi Amaeth Cyffredin i gael cydbwysedd gwell rhwng Colofnau Adolygu’r Polisi Amaeth Cyffredin i gael y canlyniadau amgylcheddol gorau.  Dylai trawsgydymffurfiad y Polisi Amaeth Cyffredin:

 

·         daclo mathru pridd ac erydu glannau afonydd gan dda byw,  

·         ofyn i bob fferm fabwysiadu cynlluniau rheoli maetholion, a  

·         hyrwyddo cydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) Silwair, Slyri a Thanwydd Amaethyddol - cydymffurfiad SSAFO.  

 

2.26      Mae cydymffurfiad SSAFO’n cynnwys;

 

·         lleoli’n hydrolegol fannau cadw o leiaf 10 metr oddi wrth gyrsiau dŵr.

·         bod yn rhaid i bob man cadw slyri fod yn gallu cadw'r holl slyri sy'n cael ei gynhyrchu ar y fferm ac, nad yw'n gollwng nac mewn perygl o orlifo.   

·         bod yn rhaid i fannau cadw fod â system casglu a chadw elifiant nad yw'n gallu gorlifo.

 

 

ADNABOD ANIFEILIAID YN ELECTRONIG

 

Cwestiwn 24

 

A fyddech chi’n cefnogi gwelliant o’r fath i’r rheoliad drafft?

 

2.27      Dim sylwadau

 

Y GYFARWYDDEB FFRAMWAITH DŴR A’R GYFARWYDDEB PLALADDWYR

 

Cwestiwn 25

 

Beth yw eich barn ar y gwelliannau hyn?

 

2.28      Mae Erthygl 93 o Reoliad Llorweddol y Polisi Amaeth Cyffredin yn dweud:

 

“Bydd Cyfarwyddeb 2000/60/EC 23 Hydref 2000, sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu gan y Gymuned ym maes polisi dŵr, yn cael ei ystyried fel rhan o Anecs II unwaith y bydd y Gyfarwyddeb hon yn cael ei gweithredu gan bob Aelod Wladwriaeth a bod y cyfrifoldebau sy’n uniongyrchol berthnasol i ffermwyr wedi’u nodi.

 

2.29      Rydyn ni’n croesawu dymuniad cychwynnol yr Undeb Ewropeaidd i gynnwys y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Gyfarwyddeb Defnydd Cynaliadwy ar gyfer plaladdwyr mewn trawsgydymffurfio.  Mae hyn yn ffordd y gallai’r Polisi Amaeth Cyffredin dargedu mesurau ar gyfer darparu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn well.  Rydyn ni’n siomedig, felly, fod Adroddiadau Drafft Pwyllgor Amaeth Senedd Ewrop erbyn hyn yn bwriadu tynnu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Gyfarwyddeb Plaladdwyr o’r gofynion trawsgydymffurio.  Gyda bron i 64% o ddyfroedd wyneb Cymru yn methu â chyrraedd statws / potensial ecolegol da Cyfarwyddeb Fframwiath Dŵr yr Undeb Ewropeaidd yn 2011[9], rydyn ni o’r farn y dylai’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr fod yn flaenoriaeth trawsgydymffurfio’r Polisi Amaeth Cyffredin.

 

CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA

 

Cwestiwn 26

 

A ydych chi’n cytuno gyda’r gwelliant a gynigir i Gyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da 8?

 

2.30      Mae Ffeithlen bresennol Llywodraeth Cymru ar drawsgydymffurfiad y Polisi Amaeth Cyffredin a Chyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da 'C' yn gofyn i ffermwyr 'gymryd camau rhesymol i rwystro Rhododendron, Efwr Enfawr, Clymchwyn Siapan a Ffromlys Chwarennog rhag ymledu'.   Felly, mae ffermwyr a rheolwyr tir eisoes yn helpu i reoli rhywogaethau estron goresgynol yn unol â’r ymarferion ffermio da a amlinellir yn y ffeithlen.   Fodd bynnag, rydyn ni o’r farn y gellid gwneud rhagor heb, o angenrheidrwydd, i hynny gostio gormod, yn enwedig drwy reoli da byw'n pori mewn ardaloedd penodol i helpu rhwystro Ffromlys Chwarennog a Chlymchwyn Siapan rhag ymledu.   Rydyn ni hefyd yn amau’r honiad fod rheoli rhywogaethau estron goresgynol yn ‘gostus iawn’ i bob ffermwr unigol. 

 

2.31      Mae’r Gyfarwyddeb Rhywogaethau Estron yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a gallai'r Polisi Amaeth Cyffredin gynnig anogaeth bwysig i ffermwyr ymrwymo ymhellach i reoli rhywogaethau anfrodorol goresgynol y bydd y gyfarwyddeb, mae’n debyg, yn gofyn amdano.  Rydyn ni o’r farn y dylai fod angen i ffermwyr ddal i reoli rhywogaethau goresgynol estron fel rhwymedigaeth trawsgydymffurfio Cyflwr Amgylcheddol ac Amaethyddol Da y Polisi Amaeth Cyffredin.  O gofio am Newid Hinsawdd a bygythiad cynyddol rhywogaethau estron goresgynol, presennol a newydd, dylai cefnogaeth Datblygu Gwledig fod ar gael ar gyfer gweithredu wedi’i dargedu, yn ôl y gofyn.

 

3.0        Casgliad

 

3.1.       I ddarparu canlyniadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, dylai arian y Polisi Amaeth Cyffredin a Datblygu Gwledig yn y dyfodol hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy ac amlygu y dylai pob sector ffermio wella’i berfformiad amgylcheddol.   Mae cynigion y Polisi Amaeth Cyffredin yn llwyfan eang a allai alluogi amaethyddiaeth Cymru i arwain y byd - a fyddai o fudd i reolwyr tir ac i'r amgylchedd.  

 

Ansawdd Tir Cymru 19 Medi 2012



[1] Cyfathrebiad Asiantaeth yr Amghylchedd Cymru (2012) Paneli Cyswllt y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a Fforwm Rhanddeiliad LLYWODRAETH CYMRU

[2] Llywodraeth Cymru (2011) Ymgynghoriad ar Amod Amaethyddol ac Amgylcheddol Da gorfodol i gyflwyno parthau byffer ger cyrsiau dŵr i daclo llygredd dŵr o amaethyddiaeth

[3] Seilir y ffigurau ar amcangyfrif Llywodraeth Cymru o gyfanswm blynydddol y Taliad Sengl i Ffermwyr yng Nghymru (tua £292 miliwn) ar gyfradd gyfnewid yr ewro o €1.14 i’r £1 ar 11 Chwef 2010. 

[4] Datganiad i’r Wasg y Comisiwn Ewropeaidd, Rural Development Plan for Wales 20 Chwefror 2008 [Mynediad 11 Chwefror 2010]

[5] Mae’r Arolwg Busnes Ffermydd yn arolwg o 550 o fusnesau ffermio o’r prif fathau o ffermydd yng Nghymru.  Dim ond ffermydd â Gofyniad Llafur Safonol o fwy na 0.5 sy’n cael eu cynnwys yn y sampl. 

[6] Ecologic, 2010. Asesiad o’r mesurau amaethyddol sydd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft http://ec.europa.eu/environment/water/quantity/pdf/summary050510.pdf

[7] Llywodraeth Cymru (2011) Ymgynghoriad ar Amod Amaethyddol ac Amgylcheddol Da i gyflwyno parthau byffer ger cyrsiau dŵr i daclo llygredd dŵr o amaethyddiaeth

[8] Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (2012) Dyfroedd Byw i Gymru – cyfathrebu ein dulliau

[9] Cyfathrebiad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (2012) Paneli Cyswllt y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a Fforwm Rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru